Registrant Council Member

Share this role

Employer:
General Medical Council
Location:
National
Salary:
Remuneration £18,000; Time commitment circa three days a month
Closing Date - Strictly:
12:00 noon, Monday 15 July 2024
Job Ref:
GSe112666

Recruitment timetable

Closing Date - Strictly
12:00 noon, Monday 15 July 2024
Preliminary Interviews
Commencing Thursday 8 August 2024
Final Panel Interview
Wednesday 30, and Thursday 31 October 2024

Associated documents

Description

We are seeking to appoint one registrant member and one lay member for our governing Council.

Working across all four countries of the UK, our vision is to be an effective, relevant and compassionate regulator, who supports the delivery of safe, high-quality patient care. As health services in the UK continue to face intense pressure, regulation has a pivotal role to play in protecting patients and promoting the wellbeing of the workforce. We have set ambitious commitments to address inequality, embrace diversity, and support inclusion within healthcare, both as a regulator and an employer. Championing this work is a key focus for our Council and you will play a vital part in shaping healthcare in the years ahead.

You will be joining at a landmark moment, as the legislation which underpins our work is changing. From December 2024 we take on the regulation of physician associates and anaesthesia associates, ahead of wider reforms for doctors. Leading this much needed programme of reform will positively affect how we work with our registrants, patients and the public across all our functions. Our Council will play a key role in helping us define the programme that best achieves our strategic ambitions.

Our Council comprises 12 members from across the UK (six lay and six registrant). It sets our strategy, defines our high-level policies and is responsible for making sure that we fulfil our statutory and charitable purposes. We are currently seeking two new members who must be able to contribute to setting this strategy, exercising oversight and ensuring effective corporate governance. We are seeking strong and demonstrable non-executive experience and a background in leading organisations through complex change. Exposure to working at the government/political interface would also be of particular interest, and active clinical experience and clinical leadership is sought for the registrant role. Applications for both roles are welcomed from across all four countries of the UK, but we are particularly keen to encourage applications from Wales, due to the current Welsh member’s term of office ending December 2024.

The time commitment for the appointments will average around three days a month and remuneration is £18,000 per year.

We are committed to being a diverse and inclusive organisation; one that reflects those we work with and for. We actively encourage those with diverse backgrounds and experiences to apply to work with us.

For further information including how to apply, please click on Apply.

The GMC values equality and diversity and is committed to processes and procedures that are fair, objective, transparent and free from bias and unlawful discrimination.

Applications may be submitted in Welsh. Please be assured that an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English. 

The GMC is a charity registered in England and Wales (1089278) and Scotland (SC037750).

 

Rydym yn dymuno penodi un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg i’n Cyngor llywodraethu.

Rydym yn gweithio ar draws pedair gwlad y DU a’n gweledigaeth yw bod yn rheoleiddiwr effeithiol, perthnasol a thrugarog sy’n cefnogi gofal diogel, o ansawdd uchel i gleifion. Wrth i wasanaethau iechyd yn y DU barhau i wynebu pwysau dwys, mae gan reoleiddio rôl bwysig i’w chwarae yn diogelu cleifion a hybu lles y gweithlu. Rydym wedi pennu ymrwymiadau uchelgeisiol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, i groesawu amrywiaeth ac i gefnogi cynhwysiant ym maes gofal iechyd, a hynny fel rheoleiddiwr ac fel cyflogwr. Mae’r Cyngor yn canolbwyntio’n gryf ar hyrwyddo’r gwaith hwn a byddwch yn cyfrannu’n allweddol at bennu cyfeiriad gofal iechyd yn y blynyddoedd i ddod.

Byddwch yn ymuno ar adeg dyngedfennol, gan fod y ddeddfwriaeth sy’n sail i’n gwaith yn newid. Fis Rhagfyr 2024 byddwn yn dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Bydd diwygiadau ehangach i feddygon yn dilyn hynny. Bydd arwain y rhaglen angenrheidiol hon o ddiwygio yn effeithio’n gadarnhaol ar ein ffordd o weithio gydag unigolion cofrestredig, cleifion a’r cyhoedd ar draws ein holl swyddogaethau. Bydd ein Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i ddiffinio’r rhaglen sy’n cyflawni ein huchelgeisiau strategol yn y ffordd orau.

Mae ein Cyngor yn cynnwys 12 aelod o bob rhan o’r DU (chwe aelod lleyg a chwe aelod cofrestredig). Mae’n pennu ein strategaeth, yn diffinio ein polisïau lefel uchel ac yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein dibenion statudol ac elusennol. Rydym yn chwilio am ddau aelod newydd a fydd yn gallu cyfrannu at y gwaith o bennu’r strategaeth hon, goruchwylio a sicrhau llywodraethu corfforaethol effeithiol. Rydym yn chwilio am bobl â phrofiad amlwg o rolau anweithredol a chefndir mewn arwain sefydliadau drwy newidiadau cymhleth. Byddai hanes o weithio yn y rhyngwyneb llywodraeth/gwleidyddol o ddiddordeb arbennig hefyd, ac rydym yn chwilio am rywun â phrofiad clinigol gweithredol ac arweinyddiaeth glinigol ar gyfer rôl yr aelod cofrestredig. Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer y ddwy rôl o bedair gwlad y DU ond rydym yn annog ceisiadau gan bobl yng Nghymru yn gryf, gan fod cyfnod swydd yr aelod presennol o Gymru yn dod i ben fis Rhagfyr 2024.

Tua tri diwrnod y mis fydd ymrwymiad amser y penodiadau a £18,000 y flwyddyn yw’r tâl.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol; sefydliad sy’n adlewyrchu’r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ar eu rhan. Rydym yn annog pobl o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol i wneud cais i weithio gyda ni.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut mae gwneud cais, cliciwch cais isod.

Mae’r GMC yn gwerthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae wedi ymrwymo i brosesau a gweithdrefnau sy’n deg, yn wrthrychol, yn dryloyw ac yn rhydd o ragfarn a gwahaniaethu anghyfreithlon.

Mae modd cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd cais yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn y Saesneg. 

Mae’r GMC yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) a’r Alban (SC037750).

To view the job description and person specification, please scroll to the bottom of the page, tick to agree to the privacy policy, then click 'Continue to full details'.

How to Apply

Please take care to apply for the correct role. If you are a medical professional registered with the GMC, with a licence to practice, then you should apply for the Registrant role. If you are not registered with the GMC, please apply for the Lay role.  

This is an online competency-based application process.

Please complete the online application form detailing how you meet the criteria set out in the four ‘Core competencies’ outlined above.

When completing the online application form, you must respond to the four competency questions, giving specific detailed examples of how you can address these, concentrating on your role and input, process and outcomes. You will also be asked to submit a word limited Career Summary, which should not be an upload of your CV. Candidates will be asked for a CV if they are invited for preliminary interview.

Your Career Summary will not be scored but will be provided for context only.

Our compliance with the Welsh Language Standards has been considered in the development of the recruitment activity. As we are actively encouraging applications from candidates who live and/or work mainly in Wales, we have identified specific activities and opportunities to ensure the Welsh language is treated no less favourably than the English language. These include:

  • Producing bilingual communication and recruitment materials
  • Providing bilingual application forms
  • Making the active offer for candidates to use the Welsh language during the application process.

You must submit your application only through the website by 12:00 noon, Monday 15 July. We regret that late applications will not be accepted.

 

Mae hon yn broses gwneud cais ar-lein sy’n seiliedig ar gymwyseddau.

Llenwch y ffurflen gais ar-lein, gan fanylu sut rydych yn bodloni’r meini prawf sydd wedi’u nodi yn y pedwar ‘Cymhwysedd craidd’ uchod.

Wrth lenwi’r ffurflen gais, rhaid i chi ateb y cwestiynau am y pedwar cymhwysedd, gan roi enghreifftiau manwl a phenodol o sut gallwch eu cyflawni. Dylech ganolbwyntio ar eich rôl a’ch cyfraniad, y broses a’r canlyniadau. Bydd gofyn i chi lwytho Crynodeb Gyrfa â therfyn geiriau i fyny hefyd. Ni ddylech lwytho eich CV i fyny. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno CV os byddant yn cael eu gwahodd am gyfweliad rhagarweiniol.

Ni fydd eich Crynodeb Gyrfa’n cael ei sgorio. Caiff ei ddefnyddio ar gyfer cyd-destun yn unig.

Rydym wedi ystyried sut mae cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth ddatblygu ein gweithgaredd recriwtio. Gan ein bod yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru yn bennaf, rydym wedi nodi gweithgareddau a chyfleoedd penodol i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynhyrchu deunyddiau cyfathrebu a recriwtio dwyieithog
  • Darparu ffurflenni cais dwyieithog
  • Gwneud cynnig rhagweithiol i ymgeiswyr ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y broses gwneud cais.

Rhaid i chi gyflwyno eich cais drwy’r wefan yn unig erbyn hanner dydd, dydd Llun 15 Gorffennaf. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn.

Continue to full details and application