Cwestiynau Cyffredin

Penodi un Aelod Cofrestredig o’r Cyngor ac un Aelod Lleyg o’r Cyngor

Meini prawf cymhwyso ac anghymhwyso

I fod yn gymwys ar gyfer y penodiad hwn, rhaid i ymgeiswyr allu bodloni’r diffiniadau canlynol:
  • Mae Deddf Meddygaeth 1983, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2004, yn diffinio aelod lleyg fel:
    • is not and never has been
    • person nad yw erioed wedi cofrestru’n llawn na dros dro fel meddyg, erioed wedi cofrestru â chofrestriad cyfyngedig, ac nad yw’n dal cymwysterau a fyddai’n caniatáu iddo wneud cais am gofrestriad dros dro neu lawn o dan Ddeddf Meddygaeth 1983 fel y’i diwygiwyd.
    • person nad yw erioed wedi cofrestru o dan Orchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024[1] ac nad yw’n dal cymhwyster sydd wedi’i gymeradwyo o dan erthygl 4(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw.
  • Mae Deddf Meddygaeth 1983, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024, yn diffinio aelod cofrestredig fel:
    • person sydd wedi cofrestru’n llawn neu dros dro fel meddyg, ac sy’n dal trwydded i ymarfer. Mae hyn yn berthnasol drwy gydol cyfnod unigolyn fel aelod cofrestredig o’r Cyngor[1]; neu
    • person sydd wedi’i gofrestru o dan y Gorchymyn Cymdeithion Anesthesia a Chymdeithion Meddygol 2024*.

[1]Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 13 Rhagfyr 2024. Mae cymhwysedd wedi’i ddisgrifio yn adran ‘Sgiliau a Phrofiad Proffesiynol’ y ddogfen hon.

[1]Mae’r meini prawf ar gyfer anghymhwyso o benodiad fel aelod o’r Cyngor wedi’u nodi yn Rhan 2, Erthygl 5 o Orchymyn y Cyngor Meddygol Cyffredinol (Cyfansoddiad) 2008 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn y GMC (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2012. Mae’r wybodaeth yn Atodiad B.

Ydy’r swyddi’n agored i ymgeiswyr ym mhedair gwlad y DU?

Er bod y swyddi’n agored i bobl yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym yn annog ceisiadau gan bobl yng Nghymru yn gryf, gan fod cyfnod swydd yr aelod presennol o Gymru yn dod i ben fis Rhagfyr 2024.

Oes rhaid i mi fod yn wladolyn y DU i wneud cais?

Mae’n rhaid i chi fod yn rhydd i barhau yn y DU a chyflawni’r rôl hon.

Oes terfyn oedran ar gyfer gwneud cais?

Does dim terfyn oedran.

Ydy’r swyddi newydd yn agored i unigolion cofrestredig ac i unigolion lleyg?

Ydy. Mae un swydd ar gyfer aelod lleyg ac un ar gyfer aelod cofrestredig, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr ac isod mewn perthynas ag ymchwiliadau.

Pwy sy’n gallu gwneud cais am y swydd aelod cofrestredig?

Mae meddygon, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd yn y wybodaeth i ymgeiswyr ac isod mewn perthynas ag ymchwiliadau, yn gallu gwneud cais, yn ogystal â chymdeithion meddygol ac anesthesia sy’n disgwyl ymuno â’r gofrestr pan fydd y GMC yn dechrau eu rheoleiddio.

Dwi wedi bod yn destun ymchwiliad gan y GMC yn y gorffennol. Oes modd gwneud cais o hyd?

Oes. Rydych chi’n dal yn gallu gwneud cais hyd yn oed os ydym wedi ymchwilio i’ch addasrwydd i ymarfer yn y gorffennol. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu gwneud cais neu byddwch yn cael eich anghymhwyso rhag cael eich penodi os arweiniodd yr ymchwiliad hwn at eich gwahardd neu eich tynnu oddi ar y gofrestr, neu fod amodau neu ymgymeriadau ar eich ymarfer adeg y penodiad.

Byddwch hefyd yn cael eich anghymhwyso os bydd y Cyfrin Gyngor yn penderfynu y byddai eich penodiad yn tanseilio hyder y cyhoedd yn ein swyddogaethau rheoleiddiol.

Oes modd gwneud cais os ydw i’n Gadeirydd neu’n swyddog anweithredol mewn sefydliad yn y sector iechyd neu ofal cymdeithasol?

Oes. Byddai angen edrych ymhellach ar natur eich rôl ac unrhyw wrthdaro posib rhwng buddiannau yn ystod y broses ddethol, ac efallai y bydd yn rhaid i chi ymddiswyddo fel amod o’ch cyflogaeth.

Pryd fyddwch chi’n cadarnhau pwy sydd wedi cael eu penodi fel yr aelodau newydd o’r Cyngor?

Rydym yn disgwyl i’r panel dethol gyflwyno argymhelliad i’r Cyfrin Gyngor ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd 2024.

Am ba mor hir fydd yr aelodau newydd o’r Cyngor yn y swydd?

Bydd y penodiad cychwynnol am gyfnod o hyd at bedair blynedd. Bydd y Cyfrin Gyngor yn cadarnhau cyfnod y swydd wrth benodi. Caiff aelodau o’r Cyngor wasanaethu am ddim mwy nag wyth mlynedd mewn unrhyw gyfnod o 20 mlynedd.

Beth fydd tâl yr aelodau newydd o’r Cyngor? Pa fuddion fyddant yn eu cael?

Mae gan aelodau o’r Cyngor hawl i dâl o £18,000 y flwyddyn am ymrwymiad amser o dri diwrnod y mis o leiaf. Mae’r tâl yn cynnwys presenoldeb yng nghyfarfodydd y Cyngor a chyfarfodydd eraill y GMC, yn ogystal â’r amser paratoi a theithio. Nid yw’r swm hwn yn bensiynadwy ac ni fyddant yn cael yswiriant meddygol preifat.

Pwy sydd ar y panel dethol?

Mae’r panel dethol yn cynnwys y Fonesig Carrie MacEwen, Cadeirydd y Cyngor, dau aelod arall o’r Cyngor ac aelod annibynnol o’r panel. Dyma’r aelodau o’r panel ar gyfer y penodiadau hyn:

  • Yr Athro Fonesig Carrie MacEwen, Cadeirydd – Cadeirydd y Cyngor ac aelod cofrestredig, yr Alban
  • Yr Athro Anthony Harnden – Aelod cofrestredig, Lloegr a Chadeirydd y Pwyllgor Taliadau
  • Dr Vanessa Davies – Aelod Lleyg, yr Alban
  • Ms Cindy Butts – Aelod annibynnol o’r panel
Beth yw’r Cyfrin Gyngor?

Mae’r Cyfrin Gyngor yn gasgliad o wleidyddion profiadol sydd yn neu wedi bod yn aelodau o Dŷ’r Cyffredin neu Dŷ’r Arglwyddi. Mae’n gyfrifol am gymeradwyo penodiadau i tua 400 o sefydliadau, elusennau a chwmnïau – gan gynnwys y GMC. Mae rhagor o wybodaeth am waith y Cyfrin Gyngor ar ei wefan.

Pam mai’r Cyfrin Gyngor sy’n gyfrifol yn y pen draw am benodi aelod o Gyngor y GMC?

Mae adran 227 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 yn amlinellu ein cyfrifoldeb cyfreithiol i gynnal proses addas i ddewis ymgeiswyr i’w hargymell i’r Cyfrin Gyngor.

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn gwirio ein proses i sicrhau ei fod yn deg ac yn dryloyw, a bod pob penderfyniad dethol yn seiliedig ar dystiolaeth o deilyngdod. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar wefan yr Awdurdod.