Aelodau’r Cyngor

Rydym yn dymuno penodi un aelod cofrestredig ac un aelod lleyg i’n Cyngor llywodraethu.

Croeso gan yr Athro Fonesig Carrie MacEwen

Croeso, a diolch am eich diddordeb yn y rôl Aelod o’r Cyngor ar gyfer y Cyngor Meddygol Cyffredinol (y GMC).

Dyma amser arbennig o ddiddorol a heriol i ymuno â’r GMC. Mae diwygio ein trefn reoleiddio yn gyfle gwych i ni wireddu nifer o’n huchelgeisiau, ac i ganolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig go iawn yn system iechyd pedair gwlad y DU ar hyn o bryd. Fis Rhagfyr 2024, byddwn yn dechrau rheoleiddio cymdeithion meddygol a chymdeithion anesthesia. Dyma gam cyntaf newidiadau deddfwriaethol mawr, hir-ddisgwyliedig, i’n ffordd o weithio. Bydd hyn yn gwella prosesau i unigolion cofrestredig, cleifion a’r cyhoedd. Byddwn yn sicrhau ein bod yn addasu ac yn arloesi er mwyn cyfrannu at well gofal iechyd a diogelwch i gleifion drwy sicrhau safonau uchel yn addysg, hyfforddiant ac ymarfer unigolion cofrestredig. Bydd gweithio law yn llaw â’n partneriaid rheoleiddiol i adeiladu a chryfhau ein hymdrechion ar y cyd yn hollbwysig i’n llwyddiant. Ond mae’r craffu a’r herio gan ein rhanddeiliaid allweddol yn sylweddol – yn gwbl briodol – ac felly mae’n rhaid i’n harweinyddiaeth allu gwrthsefyll hyn.

Wrth i wasanaethau iechyd y DU barhau i ymateb i’r heriau yn y system gofal iechyd, mae gan y GMC rôl bwysig i’w chwarae yn helpu’r gwasanaethau iechyd yn y pedair gwlad i wireddu eu huchelgeisiau o ran y gweithlu. Yn ein tro, rhaid i ni helpu’r rhai yr ydym yn eu rheoleiddio i ofalu am gleifion yn ddiogel a byddwn yn parhau i rannu data a gwaith â llywodraethau, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill i wella diwylliannau gweithleoedd drwy arweinyddiaeth a chymorth. Mae’r Cyngor yn goruchwylio ac yn craffu ar ein gwaith hollbwysig yn yr amgylchedd ansefydlog hwn. Mae ein gwaith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau parhaus ac i sicrhau newidiadau cadarnhaol i bob unigolyn cofrestredig yn adeiladu ar raglen ddiweddar y GMC o dargedau uchelgeisiol i fynd i’r afael ag atgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer anghymesur, ac annhegwch mewn addysg a hyfforddiant meddygol.

Gan ddarparu cymorth a her anweithredol i’r tîm uwch-reolwyr a gweithio’n agos gydag aelodau eraill o’r Cyngor, bydd deiliaid y swyddi yn ein helpu i sicrhau bod strategaeth y GMC yn canolbwyntio ar reoleiddio cymesur, effeithiol a thosturiol sy’n helpu’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yr ydym yn eu rheoleiddio i roi gofal o’r radd flaenaf i gleifion. Mae aelodau o’r Cyngor yn ymddiriedolwyr i’r GMC fel elusen sydd wedi cofrestru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Felly bydd angen hygrededd personol uchel, sgiliau diplomataidd cryf a’r gallu i feithrin a rheoli cysylltiadau effeithiol ar yr aelodau newydd o’r Cyngor.

Mae ein staff yn dweud bod fan hyn yn lle gwych i weithio. Byddwch yn rhan o sefydliad â chenhadaeth gyhoeddus ddifyr, enw da am ragoriaeth yn ei waith, ac sydd wrth galon y system iechyd a gofal ehangach. Byddwch yn ymuno â diwylliant cydweithredol cryf a grŵp cefnogol a chroesawgar o gyd-weithwyr.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad amrywiol a chynhwysol. Mae cynyddu amrywiaeth ein tîm arwain yn flaenoriaeth i ni felly rydym yn annog pobl o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol i wneud cais.

Fel aelod o Gyngor y GMC, byddwch yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Os ydych chi’n credu mai dyma’r cyfle iawn i chi, rydym yn edrych ymlaen at gael eich cais.

Professor Dame Carrie MacEwen

Chair of Council